<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Openbook - dangos bod Facebook llawn cachu.

17.5.10

Mae Openbook yn ceisio amlygu newidiadu i osodiadau preifatrwydd ar Facebook, (manylion ar ffurf siart handi yma) sy'n golygu bob mwy a mwy o fanylion amdanoch chi'n cael eu gwneud yn hysbys i eraill yn ddiarwybod i chi.

Yn y gorffenol, roedd unai angen bod yn ffrind gyda rhywun i fod yn gallu gweld eu proffil a darllen eu negeseuon, neu o leiaf roedd rhaid bod cyfrif gyda chi a'ch bod chi wedi mewngofnodi. Ddim bellach, ac mae Openbook yn dangos canlyniadau searches am gymalau mewn brawddeg a all fod yn o embaras i bobl. Pethau fel "i'm not racist but", "boss is an asshole" ayyb.

Er mwyn cael slant Cymraeg, es i am yr opsiwn syml a jyst teipio 'cachu' i mewn. Mae'n debyg bod Cachu yn gyfenw poblogaidd ac yn ymddangos mewn sawl iaith arall (gol. newydd syleddoli beth ydy'r holl "coo coo cachu"), ond roedd ambell neges Gymraeg - pob un yn ddoniol i'r person anaeddfed (fel fi). Dyma rai o'r clasuron:
Hwbla di cachu yn trons ha ha hwbla!!

cachu ci, cachu cath, cahcu MONICA LOT YN WATH!!

Sian catherin jones bobl eraill sydd yn galw t yn sian cachu, dim v. Just gofyn oni.

Waw im so not happy with channel 1 ia....malu cachu leadio ni ar ta be!! Di eastenders ddim even ar wan mwudro!!!

rhaid i rachel stopio cachu ia,dir babi myn stopio crio a ma v a paul yn marwn drws cefyn hahahahahaha

hwyl yn gdnin club heddiw efo siwan, sam a rhys!!! lol!!! mynd ar to wedyn siwan yn cachu ei hun a nath o fynd trwy ei overalls gwyn!!!! RHYS YN NASTY!!! TAFLU T.BAG GWAG AR YSGWYDD V!!!! lol

Falle bo chi'n meddwl mai gwastaff llwyr oedd yr ymarferiad yma. Wel chi'n rong, dois i ar draws dolen at Radio Cachu ar YouTube. Plentynaidd ond 10 mundud o lol holloll ddoniol. Dw i'n dechrau dod i'r casgliad mai mond pobl ochre Caernarfon sy'n defnyddio Facebook, ond hir oes hynny.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:05 pm

4 sylw:

I fynd ar drywydd arall, mae'n ddiddorol fod ti wedi sylwi ar Radio Cachu heddiw. Wnes i sylwi ar un o'r fideos yna heddiw hefyd drwy chwilio am air cymraeg ar youtube (nid 'cachu' ond 'profiad').

Dwi'n amau fod YT/Google wedi gwella'r dechnoleg sy'n dangos fideos perthnasol achos wrth wylio un fideo Cymraeg (gyda disgrifiad neu deitl Cymraeg) dwi'n gweld llawer fwy o gynnwys sy'n berthnasol nag oeddwn i - a llawer o rheiny yn mynd yn ôl rhai blynyddoedd.

O fy ystadegau YouTube dwi hefyd yn sylwi fod ymwelwyr sy'n cyrraedd o fideos perthnasol wedi neidio cryn dipyn yn y mis diwethaf (ond efallai am mod i wedi dechrau ychwanegu fideos eto ym mis Mawrth/Ebrill).
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 10:09 pm  

Hwn yn reit defnyddiol hefyd:

http://www.reclaimprivacy.org/facebook
sylw gan Blogger Huw, 11:08 pm  

Dw i ddim yn YouTubeiwr mawr, ond mae'r 'fideos perthnasol' ar y dde yn gallu bod yn syndod o, erm, perthnasol. Byddai'n diddorol gwybod sut mae'n dangos rhai Cymraeg a dim modd nodi iaith y fideos fel Cymraeg.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 6:43 am  

Dwi'n caru gweld yr holl txtspk Cymraeg. Fkn mesing LOL!

Ma "gont" yn dod fyny efo dipyn o rai da fyd.

O ran YouTube, dwi'm yn siwr os ydi'r related videos yn defnyddio unrhywbeth ond y testun sydd yn y disgrifiad, teitl, enw defnyddiwr a proffeil falla. Bosib bod sylwadau'n cael eu chwilio hefyd.

Dy'n nhw'n defnyddio pethau fel creu cysylltiadau o ran favourites, playlists, a fideos eraill gan ddefnyddwyr hefyd sgwn i.

Byddai'n werth edrych drwy argymhellion un fideo i drio gweithio allan sut mae'r cyswllt di cael ei wneud.

O'r gwaith nesh i efo Daniel Cunliffe yn ddiweddar, roedd chwiliadau yn reit gaeth i'r testun sy'n cael ei roi yn y digrifiad, teitl ac enw defnyddiwr.
sylw gan Blogger Nwdls, 8:19 am  

Gadawa sylw