<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/plusone.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("iframes-styles-bubble", function() { if (window.iframes && iframes.open) { iframes.open( '//www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\759291287\46blogName\75Gwenu+dan+Fysiau\46publishMode\75PUBLISH_MODE_BLOGSPOT\46navbarType\75BLUE\46layoutType\75CLASSIC\46searchRoot\75http://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\46blogLocale\75en_GB\46v\0752\46homepageUrl\75http://gwenudanfysiau.blogspot.com/\46vt\75-4875363306407869682', { container: "navbar-iframe-container", id: "navbar-iframe" }, { }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Yfed tu allan i'r bocs

29.6.09

Roeddwn wedi darllen am Artisan Brewery o Gaerdydd mewn rhifyn o Buzz ond heb erioed flasu'r cwrw. Diolch i Brew Wales, dyma osgoi trychineb ar y penwythnos, sef beth fyddai wedi bod petawn wedi methu Meicro Ŵyl Gwrw lleol (aeth ebost o restr postio Artisan i fy mlwch spam).

Ar y dydd Sul es i ac roedd ychydig tawelach na'r diwrnod cynt o beth dw i'n ddeall, ond roedd llwyfan bach i'r bandiau, bwyd cartref hyfryd (burgers cig a llysieuol, salads ac amryw o gacs) ac wrth gwrs o'r diwedd ces flasu'r cwrw. Anghofiais fynd i'r peirant twll-yn-wal ar y ffordd yno, felly cael a chael oedd hi ond blasais y tri cwrw oedd ar gael, sef math o Pilsnser, cwrw Bafaraidd a fy ffefryn Chocolate Wheat Beer. Dw i'n meddwl mod i wedi perswadio Sarah y byddai poteli o'r rhain yn anrheg addas i ben-blwydd ei thad yn 65! Roedd y cwrw i gyd yn neis iawn, ac mae mae £2 y botel (am un maint 660ml) yn rhesymol iawn. Dw i'n hoffi eu polisi o ddychwelyd y poteli hefyd:
In an attempt to promote our ethical standards for a cleaner and greener world, we are pleased to introduce a bottle return policy. Simply return your empty bottles (rinsed), and we will refund you £1 cash for every 6 bottles returned. It’s the beer that keeps on giving you might say!
Ar hyn o bryd, mond yn mariau Gwdihw a Cwtsh mae modd prynnu'r cwrw.
postiwyd gan Rhys Wynne, 6:55 pm

0 sylw:

Gadawa sylw